2003 – 2005

Saesneg

Yn ystod 2001 a 2002, daeth yn amlwg i wylwyr adar Porthmadog bod yna walch y pysgod yn bwrw’r haf yn Nyffryn Glaslyn. Nid oedd hynny’n arbennig o anarferol  gan ei bod yn wybyddus bod amryw o weilch unigol wedi bwrw’r haf yng Nghymru rhwng canol a diwedd y 1990au. Ganol haf 2003, fodd bynnag, gwelwyd un gwalch yn arddangos a sylwyd bod dau walch un ai gyda’i gilydd neu mewn mannau gwahanol yn y dyffryn yr un adeg â’i gilydd.  Roedd hi’n rhy hwyr yn y tymor iddynt fagu cywion ond roedd y gobeithion yn fawr am 2004.

Yn Ebrill 2004, sylwyd bod y ddau walch yn yr ardal eto.  Olrheiniwyd yr adar i’r gwylltir yng nghyffiniau Nantmor, ond er holi’r ffermwyr lleol, methwyd â chanfod nyth. Fin nos y 18fed o Fai, gwelodd beiciwr o’r enw  Steve Watson walch y pysgod yn hedfan i fyny’r afon wrth Bont Croesor a physgodyn yn ei grafangau. Cysylltodd Steve â’r heddwas a’r adarwr lleol, Kelvin Jones. Dywedodd na wyddai ble’r oedd y nyth nac, yn wir, a oedd yna nyth o gwbl ond credai y gallai fod yna weilch y pysgod yng nghyffiniau Nantmor.  Bore trannoeth, roedd Steve yn ffonio  Kelvin unwaith eto; roedd wedi dod o hyd i’r nyth.

Ar ôl y gorfoledd o ddarganfod y nyth, buan y sylweddolwyd y gallai casglwyr wyau geisio dwyn yr wyau. Hwn oedd y cofnod swyddogol cyntaf erioed o weilch y pysgod yn nythu yng Nghymru a byddai eu hwyau’n werth llawer iawn o arian ac yn hawdd eu dwyn. Cysylltodd Kelvin â Reg Thorpe, Pennaeth Tîm Cadwraeth RSPB Cymru, ac aethpwyd ati ar unwaith i gadw llygad ar y nyth. Cynigiodd aelodau Cymdeithas Edward Llwyd, Grŵp Astudio Adar Ysglyfaethus Cymru, Cymdeithas Ted Breeze Jones, Adarwyr Glaslyn, Cymdeithas Adarydda y Cambrian, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Parc Cenedlaethol Eryri a’r RSPB roi help llaw a threfnwyd i wylio’r nyth bedair awr ar hugain y dydd. Carbwl iawn oedd y trefniadau gwylio ar y dechrau – dim ond cadair wersylla a thelesgop wedi’i fenthyg! Ond dair wythnos yn ddiweddarach, cafwyd benthyg carafán a oedd yn darparu cyfleusterau gwylio tipyn mwy moethus.

The protection caravan

Fodd bynnag, roedd y newydd am y nyth yn dechrau lledaenu ac roedd hi’n fwyfwy anodd atal y stori rhag ymledu. Aethpwyd ati i gynllunio safle gwylio er mwyn i aelodau’r cyhoedd allu gwylio’r gweilch ar eu nyth o fewn pellter rhesymol. Trefnwyd i Carl Nicholson, Cyn-Bennaeth Rhanbarth Canolbarth Lloegr o’r RSPB, oruchwylio’r safle gwylio ac ymunodd Glyn Roberts, gwirfoddolwr yng Ngwarchodfa’r RSPB yng Nghonwy, a Jim Beattie, gwirfoddolwr yng Ngwarchodfa’r RSPB yn Leighton Moss, ag ef. Clwt o dir wedi’i ffensio’n weddol ffwrdd-â-hi wrth Bont Croesor (lle mae trenau Rheilffordd Eryri’n rhedeg yn awr) oedd y safle gwylio yr adeg hon.

Ar yr 28ain o Fehefin, aeth Kelvin gyda dyn camera bywyd gwyllt at lethrau Moel Ddu i ffilmio’r nyth. Ar y fideo, gwelwyd yr iâr yn gwyro ymlaen i’r nyth i fwydo rhywbeth ac yna, dalpyn gwyn yn saethu allan dros ymyl y nyth; roedd o leiaf un cyw wedi’i eni. Penderfynwyd cyhoeddi’r newydd yn swyddogol ddydd Sadwrn, y 3ydd o Orffennaf, ar raglen Galwad Cynnar ar Radio Cymru. Gwaetha’r modd, cafwyd storm enbyd ar y 30ain o Fehefin. Drylliwyd y nyth a daethpwyd o hyd i ddau gyw marw o dan y goeden. Dangosodd y post mortem fod y ddau gyw wedi marw yn sgil anafiadau a gawsant wrth ddisgyn dros 80 troedfedd o’r nyth. Credwyd ar y dechrau mai tua deng niwrnod oed oeddynt ond gan fod y ddau gyw wedi bwrw eu mân blu cyntaf, mae’n fwy tebygol eu bod rhwng 12 a 15 diwrnod oed.

The hide at Pont Croesor in 2005

Parhawyd i roi cyfle i’r cyhoedd wylio’r adar, a denwyd 9500 o ymwelwyr yn ystod yr wyth wythnos gyntaf y bu’r safle ar agor. Gallai’r ymwelwyr weld y gweilch yn glir yn ailadeiladu eu nyth ond  dymchwelodd y nyth eto, fwy nag unwaith, ac roedd yn amlwg y byddai’n  rhaid gwneud rhywbeth i helpu’r gweilch i fagu cywion yn llwyddiannus y flwyddyn ganlynol. Nid oedd modrwy ar yr iâr ond roedd gan y ceiliog fodrwy Darfig felyngoch yn ogystal â modrwy BTO. Llwyddwyd, yn y man, i weld y ffigwr 11 mewn du ar fodrwy’r ceiliog. Darganfuwyd mai un o weilch Prosiect Gweilch Rutland, a gawsai ei symud yno o’r Alban yn 1998, oedd y ceiliog ac mai o Speyside y deuai’n wreiddiol. Yn gwbl ryfeddol, darganfuwyd bod un arall o weilch Rutland, sef Gwyn 07, yn nythu yr haf hwnnw ar gyrion y Trallwng gydag iâr (Coch 6J) a hanai o Perthshire yn yr Alban. Llwyddodd y pâr hwn i fagu un cyw, a chredir mai gwryw ydoedd. Arhosodd gweilch Glaslyn yn eu nythle tan ddiwedd Awst.

Yn ystod gaeaf 2004/2005, cafodd yr RSPB gyllid i redeg y prosiect o dan eu cynllun Tydi Adar yn Wych, a dechreuodd Prosiect Gweilch Glaslyn gael ei draed dano, o dan arweinyddiaeth Gili Armson, Cydlynydd Cysylltiadau Cymunedol yr RSPB. Yn bwysicach, dringodd Conrad Smith (aelod o staff yr RSPB a meddyg coed cymwysedig) y goeden nythu a thorri’r rhan uchaf bwdr o’r goeden o ble’r oedd nyth 2004 wedi disgyn. Aeth Conrad ati wedyn i adeiladu llwyfan nythu gyda chymorth plant Ysgol Llanfrothen a bu’r disgyblion wrthi’n ddyfal yn casglu brigau addas i wneud nyth.  Gosodwyd camera cylch cyfyng uwchben y nyth fel y gellid cadw golwg arno ar sgriniau electronig. Penodwyd Emyr Evans yn Swyddog Prosiect Gweilch Glaslyn a chyflogwyd staff tymhorol i warchod y nyth ac i ddangos y gweilch i aelodau’r cyhoedd o Safle Gwylio newydd a agorwyd wrth Bont Croesor.  Un o’r staff gwarchod a benodwyd oedd Elfyn Lewis o BGGW;  roedd ef ymysg yr adarwyr cyntaf i ddarganfod gweilch y pysgod yn y dyffryn.

Glaslyn Osprey pair in 2005

Dychwelodd y ceiliog i’w diriogaeth ddiwedd y pnawn ar yr 28ain o Fawrth ac aeth ar ei union i sefyll ar ben y boncyff a dociwyd. Mae’n dal i hoffi clwydo yno! Ymunodd iâr ag ef rhwng y 4ydd a’r 11eg  o Ebrill ond ni chredir mai iâr arferol Glaslyn oedd hon. Daeth yr iâr dywyll ei bron yr oeddem yn gyfarwydd â hi i’r golwg unwaith eto ar yr 22ain o Ebrill yn weddol hwyr yn y tymor, ond ddeng niwrnod wedyn – am 09:50 y bore ar yr 2il o Fai – dodwywyd yr ŵy cyntaf ac roedd yna lawer o bobl frwdfrydig iawn yn y Safle Gwylio yn dystion i’r digwyddiad. Dodwywyd dau ŵy arall ar y 5ed a’r 8fed o Fai. Ganwyd y cyw cyntaf ar y 9fed o Fehefin am 21:00 a’r ail gyw ar y 12fed o Fehefin. Yn anffodus, ni wnaeth y trydydd ŵy ddeor; fe’i gadawyd yn y nyth a’i symud oddi yno pan fodrwywyd y cywion ar y 13eg o Orffennaf. Rhoddwyd modrwyau Darfig melyn a llythrennau du arnynt ar y cywion. Gwryw oedd yr hynaf, sef Melyn 37, a benyw oedd yr ieuengaf, sef Melyn 39 (roedd modrwy felen 38 wedi torri!). Aeth Melyn 37 (neu  ‘Cymro’ fel y bedyddiwyd ef gan blant yr ardal) dros y nyth ar y 30ain o Orffennaf am 12:42, ac aeth Melyn 39, sef ‘Gwalia’, dros y nyth ar y 3ydd o Awst gan aros yn yr ardal tan ddechrau Medi.